Datblygu gwefan o safon uchel ar gyfer cynnyrch newydd sbon
Treuliodd sylfaenydd Stencil fwy nag 20 mlynedd fel peiriannydd sain yn clywed yr un cwestiwn dro ar ôl tro: allwn ni wneud i’r seinyddion ddiflannu, newid y lliw, neu roi ein brand arnyn nhw? Doedd dim ateb rhesymol erioed, felly fe adeiladodd ateb. Datblygon ni’r wefan er mwyn marchnata eu cynnyrch.
Cleient
Stencil Audio
Sector
Digwyddiadau byw/Sain Proffesiynol
Gwasanaethau
Gwefan
Y BRIFF
Roedd gan Stencil gynnyrch cyntaf i’r farchnad a gwefan hunan-adeiladu a oedd yn edrych yn hunan-adeiladedig. Heb unrhyw gategori i’w gymharu â nhw a dim cystadleuydd i feincnodi yn ei erbyn, roedd yn rhaid i’r wefan ennill cynhyrchwyr digwyddiadau, cwmnïau rhentu AV, a gwneuthurwyr uchelseinyddion ar ei phen ei hun. Fe ddaethon ni i mewn fel ymgynghorwyr ar ddechrau 2026, tra bod y cynnyrch yn dal i fod yn syniad, a symudon ni i datblygiad llawn ym mis Mai. Roedd y briff yn syml i’w ddweud ac yn anodd ei wneud: gwneud i bobl gredu yn y syniad ar unwaith.
Y DULL
Fe ddatblygon ni wefan sy’n gyfartal ag uchelgais y cynnyrch, â symudiad sy’n cael ei yrru gan y defnyddiwr, sgrolio’n ddiymdrech, a chyrchwr pwrpasol er mwyn i’r wefan teimlo fel wrthrych cyfan wedi’i ddylunio yn lle strwythur blociau. Yn ei chanol mae meddalwedd sy’n delweddu gorchudd 3D. Uwchlwytho’ch gwaith celf a’i wylio’n lapio o amgylch model uchelseinydd go iawn mewn amser real. Fe wnaethon ni datblygu’r cod i redeg mewn modd dibynadwy a’i gynnal yn fyw er mwyn i’r cynhyrchydd digwyddiad gallu gweld ei frand ar system PA mewn llai na munud. Wedyn, fe roddon ni’r pecyn delweddu tu ôl i ffurflen gyda 3 chwestiwn (enw, cwmni, cyfeiriad ebost), felly mae’r foment fwyaf gwerthfawr ar y wefan yn troi chwilfrydedd yn gyswllt wedi’i enwi. .
Yn y 6 wythnos ar ôl lansiad y gwefan newydd
Y CANLYNIAD
Ar ôl 6 wythnos, mae’r delweddwr 3D wedi dod â gwneuthurwr byd-eang, cyflenwr mawr yn y Deyrnas Unedig, rhestr o gwmnïau cynhyrchu, a chwmnïau rhentu AV, i gyd yn cysylltu eisoes â diddordeb. Mae’r cynnyrch yn gryf. Bellach, mae’r argraff gyntaf yn gref.