Strategaeth graff, creadigrwydd cryf, a marchnata sy wir yn perfformio.
Wedi’i hadeiladu ar gyfer diwydiant sy’n symud yn gyflym
Mae diwydiant digwyddiadau byw, technoleg adloniant, a darlledu yn symud yn gyflym, a rhaid i’r marchnata sy’n mynd gydag ymgyrchoedd llewyrchus gadw i fynny. Rydym yn cyfuno strategaeth, creadigrwydd a sgiliau digidol mewn un cynnig cysylltiedig, felly nid oes unrhyw beth yn disgyn trwy’r bylchau ac mae popeth yn gweithio’n galetach gyda’i gilydd.
Ein gwasanaethau
Strategaeth
a Lleoli
Rydyn ni’n gwneud ein hymchwil i mewn eich marchnad, eich cynulleidfa, a’ch gobeithion er mwyn datblygu strategaeth sy’n glir, wedi’i gwahaniaethu, a fydd yn para. Heb sylfaen gref, sŵn yw popeth arall.
Cynnwys a Chyfryngau
Cymdeithasol
O arwain agweddau i greu cynnwys sy’n mynnu eich sylw, rydyn ni’n creu cynnwys sy’n haeddu sylw ac yn meithrin y math o ymddiriedaeth sy’n troi cynulleidfaoedd yn gleientiaid.
Trawsnewidiad
digidol
Rydyn ni’n moderneiddio sut mae’ch marchnata’n gweithio, argymell offer gwell, prosesau craffach a’r teclynnau sy’n gallu cadw i fynny â diwydiant sy’n symud yn gyflym.
Dylunio graffeg
a gwefannau
Dylunio sy’n gwneud mwy na edrych yn dda. Mae pob tudalen wedi’i dylunio er mwyn cyfathrebu’n glir, adlewyrchu’ch brand, ac yn ysgogi pobl i weithredu.
Cynhyrchu
arweiniad
Ymgyrchoedd wedi’u hadeiladu o gwmpas eich cynulleidfa darged sy’n bwysig i’ch busnes chi. Wedi’i hadeiladu er mwyn llenwi eich llif gwaith gyda’r bobl gywir, nid dim ond i ychwanegu at eich rhestr e-bostio.
Cysylltiadau
cyhoeddus
Rydym yn sicrhau’r sylw, y sgyrsiau a’r hygrededd sy’n llywio sut mae eich diwydiant yn eich gweld chi. O ddatganiadau i’r wasg i feithrin perthnasau yn y cyfyngau, rydyn ni’n gwarantu bod pob stori gywir yn cael ei hailadrodd.
Rheoli
digwyddiadau
O gynnwrf cyn y sioe i’r cyfarfodydd sy’n dilyn, rydyn ni ymdrin â marchnata sy’n gwneud eich digwyddiadau werthu allan, sefyll allan, ac yn aros yn y cof.
Marchnata digidol
Rydyn ni’n cyfuno marchnata a delir amdano, marchnata organig, SEO mewn cynnig cysylltiedig digidol sy’n sbarduno twf cyson a chadw’ch lle yn y farchnad orlawn yn weladwy.
Cwestiynau cyffredin
Dim o gwbl. Mae’r rhan fwyaf o’n cleientiaid yn dechrau gyda dau neu tri maes cyn datblygu wrth i’r berthynas dyfu. Byddwn ni’n onest am yr hyn rydych chi ei angen, nid yr hyn sy’n gwneud ein hanfoneb yn fwy.
Ydyn. Rydyn ni’n arbenigo mewn digwyddiadau byw, technoleg adloniant, a chyfryngau darlledu. Treulion ni flynyddoedd yn y meysydd hyn, o ganlyniad rydyn ni’n deall y cyflymder, y cynulleidfaoedd gwahanol, a’r pwysau rydych chi’n teimlo o dano.
Yn gyflym. Mae’r rhan fwyaf o gleientiaid ar waith ymhen wythnos neu ddwy ar ôl ein sgwrs gychwynnol ble rydyn ni cytuno ar gwmpas y gwaith.
Byddwch chi’n cael cwmpas wedi’i ddiffinio bob mis yn ogystal â thîm penodol, adrodd yn gyson, a chyfleoedd i gyfathrebu’n uniongyrchol ag pobl uwch ymhlith ein tîm. Rydyn ni’n gweithio fel rhan o’ch tîm chi, nid cyflenwr eich bod chi’n rheoli.
Ydyn. Cymaint o’n cleientiaid a’u busnesau yn dechrau datblygu ac angen ein harbenigedd marchnata arnyn nhw heb dalu am dîm marchnata llawn yn eu busnesau. Dyna ein prif nod – eu cefnogi.