NEIDIO YMHELLACH, YN GYFLYMACH

Asiantaeth fyd-eang fusnes-i-fusnes ar gyfer digwyddiadau byw, cyfryngau darlledu a thechnoleg adloniant yw FiveTwelve, gyda dull integredig o gynnwys, cysylltiadau cyhoeddus, a marchnata ar gyfer twf.

Marchnata ar gyfer twf yn y diwydiant digwyddiadau byw a darlledu.

Rydyn ni’n arbenigo mewn partneriaeth â busnesau mewn technoleg adloniant, digwyddiadau byw a chyfryngau darlledu i ysgogi twf, trawsnewid a llwyddiant. Wrth gysylltu â’n cleientiaid ar yr adeg gywir rydyn ni’n sicrhau eu bod nhw’n cysylltu â’u cynulleidfaoedd â chywirdeb er mwyn cael yr effaith orau.

Strategaethau wedi'u teilwra, effaith go iawn

Mae gan bob cleient ei stori unigryw, rydyn ni’n ei llywio a’i hymhelaethu.  O ymgyrchoedd wedi’i ffocysu i raglenni strategol arwain agweddau, ein dull bob tro yn cael ei deilwra er mwyn cyflawni’ch nodau busnes a denu’r gynulleidfa gywir.

Rydyn ni’n creu strategaethau sy’n torri ar draws sŵn y farchnad orlawn yn ogystal â chynyddu enw da eich cwmni, bwydo twf, a chyflawni canlyniadau go iawn.  Y dyddiau hyn, mae effaith yn bwysicach na maint.

Cwrdd â rhai o’n tim ni

Sylfaen i’n gwaith ni

mlynedd o brofiad
0

Dyfeisio strategaethau arloesol a chynorthwyo brandiau sy’n dod i’r amlwg yn niwydiant digwyddiadau byw, technoleg adloniant, a chyfryngau darlledu.

arweinir gan ddataData-driven
0 %

Ein datrysiadau ar gyfer ein cleientiaid ni’n rhoi mewnwelediadau gynulleidfa a marchnad wrth wraidd y prosiect, yn cynyddu gwerth y gellir ei fesur.

creadigol
0 %

Rydyn ni’n dod ag agwedd dynol a gwahaniaethu’ch brand wrth ddweud eich stori mewn ffordd greadigol.

Rydyn ni’n gwneud pethau tipyn bach yn wahanol

Gormod o asiantaethau yn arafu pethau. Timau datgysylltiedig, prosesau rhy gymhleth, marchnata sy’n edrych yn dda, ond sy’n cael trafferth cyflawni pan mae’r effaith yn bwysig. Cafodd FiveTwelve ei hadeiladu i herio hynny.

Tîm integredig

Mae popeth rydyn ni'n ei wneud yn gysylltiedig. Dim bylchau rhwng strategaeth, cynnwys a gweithredu, dim ond un tîm sy'n gwthio i'r un cyfeiriad.

Wedi’i hadeiladu ar gyfer diwydiannau

Dyw digwyddiadau byw, darlledu, a thechnoleg adloniant ddim yn aros, na ninnau chwaith! Rydyn ni’n creu marchnata sy’n cyd-fynd â chynulleidfaoedd a’r foment, sy’n hyblyg, ac yn cyflawni dan bwysau.

Llai o sŵn, mwy o weithredu

Dim haenau o waith papur di-angen. Dim prosesau gor-gymhleth. Rydyn ni’n ffocysu ar y pethau pwysig, penderfynu, gweithredu’n gyflym, a symud pethau ymlaen.

Rydyn ni’n perchenogi ein hamcanion ni.

Dydyn ni ddim yn aros am gyfarwyddiadau, rydyn ni’n ysgwyddo cyfrifoldeb am y gwaith, yr amcanion a’r momentwm y tu ôl i’r gwaith.

Glywed digon?

Cysylltwch â ni!